Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio
Adroddiad 2015 – 2016
Cyflwyniad
Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio yn gweithio i sicrhau bod anghenion penodol pobl hŷn yn cael eu hystyried yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac y gall Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb mewn materion pobl hŷn ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Dyma aelodau'r grŵp:
• Mike Hedges AC (Cadeirydd);
• Mark Isherwood AC;
• Darren Millar AC;
• Keith Davies AC;
• Kirsty Williams AC;
• Lindsay Whittle AC;
• Aled Roberts AC;
• Laura Nott, Age Cymru (Ysgrifennydd)
Datganiad gan y Cadeirydd
Yn ystod sesiwn 2015-16, mae'r Grŵp Trawsbleidiol wedi dilyn rhaglen waith amrywiol. Mae wedi canolbwyntio ar y materion o drechu arwahanrwydd ac unigrwydd, maeth mewn lleoliadau gofal a mynd i'r afael â cham-drin yr henoed.
Mae'r grŵp wedi cael effaith wirioneddol drwy godi ymwybyddiaeth o faterion yn y cyfryngau ac yn y Cynulliad Cenedlaethol, gwneud gwaith ymchwil gyda Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a chyfathrebu â Gweinidogion y Llywodraeth.
*llofnod*
Mike Hedges AC
3 Chwefror 2015
Pwnc: Trechu arwahanrwydd ac unigrwydd
Cyflwyniad gan John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru
Rhoddodd John Vincent drosolwg o Senedd Pobl Hŷn Cymru sy’n rhoi llais i bobl hŷn ledled Cymru ac mae dros 50 o sefydliadau pobl hŷn yn gysylltiedig ag ef. Un o'u hymgyrchoedd yw 'P am Pobl', sy'n ceisio diogelu toiledau cyhoeddus yng Nghymru.
Rhaid i bobl hŷn wneud asesiad risg bob tro y byddant yn gadael eu cartrefi – ‘a fydd toiledau cyhoeddus ar gael?’ Maent yn teimlo eu bod wedi'u cyfyngu ac yn gaeth i'w tai oherwydd y broblem hon, sy'n gallu arwain at broblemau meddyliol a chorfforol. Nid pobl hŷn yw'r unig rai yn y sefyllfa hon, er enghraifft, mae pobl anabl, menywod beichiog a phlant yn poeni yn yr un modd. Mae’r holl bobl hyn yn cael eu cyfyngu oherwydd nifer y toiledau sydd ar gael iddynt.
Ysgrifennodd Senedd Pobl Hŷn Cymru adroddiad yn ddiweddar yn galw am y canlynol:
· Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o arian ar gyfer y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus ac adfer y drefn o neilltuo arian yng nghyllidebau awdurdodau lleol drwy ei ddyrannu fel grant unigol y tu allan i'r Grant Cynnal Refeniw.
· Y gyllideb flaenorol a oedd 'wedi'i neilltuo' ond heb ei gwario, i gael ei hail-fuddsoddi yn y cynllun, gan gynnwys arian i ddigolledu awdurdodau lleol am y costau hyrwyddo a gweinyddu sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus.
· Awdurdodau lleol i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei hyrwyddo / hysbysebu'n effeithiol a’i fod ar gael yn rhwydd mewn fformatau printiedig a digidol.
· Dylid ymchwilio i broblemau a / neu wrthwynebiadau posibl, a'u tynnu mewn modd pendant drwy ddarparu pecynnau gwybodaeth sy'n cwmpasu ffactorau fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, iechyd a diogelwch, gofynion o ran arwyddion allanol / mewnol ar y safle ac ati.
· Dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol (a gaiff ei monitro a'i gorfodi gan Lywodraeth Cymru) i sicrhau, fel hawl sylfaenol a ffordd o ddiogelu iechyd y cyhoedd, fod digon o doiledau cyhoeddus sy'n eiddo i'r awdurdod lleol a / neu doiledau preifat y gall y cyhoedd eu defnyddio, ar gael ym mhob dinas/tref fawr yng Nghymru.
Argymhellion / camau i'w cymryd
· Cytunodd Mike Hedges AC y dylid anfon cofnodion y cyfarfod hwn fel llythyr ar gyfer yr ymgynghoriad ar y Bil Iechyd y Cyhoedd.
· Awgrymodd Mark Isherwood AC y dylid anfon llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â safon toiledau cyhoeddus a'r gallu i'w defnyddio, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio toiledau cyhoeddus mewn banciau a llyfrgelloedd.
Yn bresennol
Mike Hedges AC - CADEIRYDD |
Julie Morgan AC |
Mark Isherwood AC |
Mark Major, Staff Cymorth Suzy Davies AC |
John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru |
Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro |
Carol Maddock, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru |
Robin Moulster, BASW Cymru |
Andrew Bell, SSIA |
Lorraine Morgan |
Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
|
Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol |
John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru |
Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru |
Gareth Powell |
Graeme Francis, Age Cymru |
Gerry Keighley, Age Cymru |
Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD |
13 Mai 2015
Pwnc: Maeth mewn lleoliadau gofal
Cyflwyniadau gan Jessica Bearman, GIG Cymru a Steve Watson, Coleg Nyrsio Brenhinol.
Cyflwynodd Jessica Bearman ei hun fel Dietegydd Arweiniol yng Ngwasanaeth Caffael y GIG yng Nghymru.
Mae agwedd negyddol tuag at fwyd yn y GIG ar hyn o bryd; rydym yn galw am gyhoeddusrwydd cadarnhaol i faeth er mwyn atal diffyg maeth. Gydag 20 miliwn o bobl yn yr UE yn dioddef o ddiffyg maeth a 16-29% o boblogaeth lleoliadau gofal, ac 1 o bob 3 o'r bobl dros 65 oed sydd yn yr ysbyty yn dioddef o ddiffyg maeth, mae angen gwneud mwy i atal hyn. Mae angen clustnodi 13 biliwn i fynd i'r afael â diffyg maeth. Hyd yn oed os gallwn wneud gwahaniaeth bach, gallwn gefnogi'r GIG yn ariannol, hyd yn oed gan 10%.
Mae 'Sgiliau maeth am oes' yn cael ei arwain gan Lisa Williams, gyda staff cymunedol yn derbyn hyfforddiant pellach o ran gwybodaeth am driniaeth yn y gymuned. Mae gan Iechyd y Cyhoedd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn elfen 'maeth mewn lleoliadau gofal' bwrpasol i'w gwaith ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio'n agos gyda'n gilydd. Mae 'Menus Counting Care' yn offeryn lle gallwch ddatblygu bwydlenni a ryseitiau ar-lein gan ddefnyddio darpariaeth safonol. Ymunodd Mark Drakeford AC â’r ymgyrch ymwybyddiaeth a marchnata 'Mind the Hunger Gap' ac felly mae hyn yn flaenoriaeth uchel i wleidyddion.
Siaradodd Steve am ei gefndir a nododd y bu'n arolygydd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru cyn gweithio i’r Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod angen inni sicrhau bod pobl yn gwybod bod bwyd a diod ar gael, gan ddarparu proses fwyta hamddenol, amserol o fewn cyrraedd hawdd. Hefyd mae angen dewis, a chael amrywiaeth o fwyd ar gael sy'n edrych yn flasus.
Pam y dylai cartrefi gofal gael bwyd sy'n edrych fel
bwyd o safon seren Michelin? Gyda chogyddion da, sy'n cael
hyfforddiant rheolaidd, ymgysylltu â phobl, rheolaeth
ariannol a ffynonellau lleol, gall y bwyd fod yn rhagorol. Mae
'Menus Count' yn Nhorfaen yn enghraifft ardderchog o hyn - gyda'r
cymorth sydd ei angen ar bobl ar unrhyw adeg yn eu bywyd o fewn y
cartref.
Argymhellion / camau i'w cymryd
Ni nodwyd unrhyw argymhellion a/neu gamau
Attendees
Mike Hedges AC - CADEIRYDD |
Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD |
Andi Lyden, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr |
Andrew Bell, SSIA |
Catherine Evans, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Cerys Furlong, NIACE |
Janet Pinder, DeafBlind |
Jessica Bearman, GIG Cymru |
John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru |
John Moore, Age Cymru |
Lisa Turnbull, Coleg Nyrsio Brenhinol |
Lorraine Morgan |
Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro |
Manel Tippet, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion |
Dr Phil Evans, ADSS Cymru |
Raja Adnan Ahmed, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion |
Robyn Miles, Glaxo SmithKline |
Rosanne Palmer, Age Cymru |
Ryland Doyle, Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad |
Steve Watson, Coleg Nyrsio Brenhinol |
14 Hydref 2015
Pwnc: Mynd i'r afael â cham-drin yr henoed
Cyflwyniadau gan Louise Hughes, Age Cymru a Rachael Nicholson, Action on Elder Abuse.
Dechreuodd Louise ei chyflwyniad drwy esbonio lle mae Age Cymru yn gweld yr heriau o'u blaenau gyda newidiadau sylweddol yn y ddeddfwriaeth. Ni fydd hyn yn datrys popeth, mae gennym fwy i'w wneud – atal, grymuso, llesiant a dewis.
Dylid gweld amddiffyn oedolion fel amddiffyn plant gyda dyletswydd estynedig i gydweithredu (mae’n ofynnol i asiantaethau roi cymorth) ac adrodd am ddigwyddiadau. O ran eiriolaeth, dylai fod hawl i gefnogaeth, sydd bellach yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ond ni wyddir ar ba ffurf y bydd hwn.
Mae pwysigrwydd hyfforddiant diogelu, yr angen am fwy o amddiffyniad i bobl hŷn sy'n agored i niwed ac sy’n cael eu twyllo gan dwyll a cham-fanteisio ariannol, newid mewn agweddau tuag at bobl hŷn, gyda mwy o urddas a pharch, ac ataliaeth, i gyd yn allweddol i fynd i'r afael â cham-drin yr henoed.
Eglurodd Louise y gallem weld newid er gwaeth mewn argaeledd gwasanaeth eiriolaeth yn ystod y 12 mis nesaf a bydd yn costio llawer o arian i'w gadw. Roedd 84% o eiriolwyr wedi cefnogi rhywun a oedd wedi cael ei gam-drin.
Rhoddodd Rachael Nicholson gyflwyniad i’r grŵp ar waith Action on Elder Abuse. Mae Action on Elder Abuse yn diffinio 'cam-drin' fel: 'gweithred sengl neu weithred sy’n digwydd dro ar ôl tro neu ddiffyg gweithredu priodol o fewn perthynas lle mae disgwyl ymddiriedaeth, sy’n achosi niwed neu drallod i berson hŷn.'
Nid yw amddiffyn pobl hŷn ac oedolion sy'n agored i niwed yn gyffredinol yn cael yr un sylw neu lefel o ddifrifoldeb ag amddiffyn plant, er gwaethaf y ffaith y gall rhai pobl hŷn fod yr un mor agored i niwed, yr un mor ddibynnol ar eu gofalwyr ac yn methu ag ymdopi ar eu pennau’u hunain. Ffordd arall o atal cam-drin yw drwy ddarparu rhwystr, gan sicrhau bod goblygiadau i’r rhai sy’n cam-drin.
Wrth symud ymlaen, hoffem weld ein cynrychiolwyr etholedig, ein Haelodau Cynulliad yn codi proffil cam-drin yr henoed. Tra’r ydym yn anelu at hynny, mae cyfle i godi ymwybyddiaeth o gam-drin yr henoed yn y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer cam-drin domestig, i sicrhau y darperir hyfforddiant hanfodol, felly gadewch inni wneud hynny.
Argymhellion / camau i'w cymryd
· Codi proffil cam-drin yr henoed
· Gofyn i'r Gweinidog fod yn glir ynghylch beth yw ataliaeth
· Siarad â fforymau pobl hŷn am sut i gynorthwyo/amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin
Yn bresennol
Mike Hedges AC - CADEIRYDD |
Louise Hughes, Age Cymru |
Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD |
Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro |
Cathrin Manning, y Groes Goch |
Marion Lowther, Contact the Elderly |
Gareth Powell, BASW Cymru |
Mohammad Asghar AC |
Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC |
Nancy Cavill, Swyddfa Julie Morgan AC |
Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol |
John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru |
Rachael Nicholson, Action on Elder Abuse |
Josh Hayman, Swyddog y Comisiynydd Pobl Hŷn |
Rachel Gingell - Gofal a Thrwsio Cymru |
Adroddiad Ariannol 2015 – 16
Incwm: Dim
Gwariant
· Arlwyo 3 Chwefror 2015: £77.88
· Arlwyo 13 Mai 2015: £77.88
· Arlwyo 14 Hydref 2015: £55.38
Gwasanaeth Arlwyo gan Charlton House Catering catering.cardiffbay@cymru.gov.uk 02920 898077
Cyfanswm: £211.14
Talwyd yr holl gostau gan Age Cymru.
Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y
mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn
flaenorol.
Ni chyfarfu'r Grŵp ag unrhyw lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol nac elusennau y tu allan i gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol.